Y PwHySllCg(6o)r-2Ie0c-2h3ydPTaN 9

Gofal Cymdeithasol

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Senedd Cymru

Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN

SeneddIechyd@senedd.cymru senedd.cymru/SeneddIechyd

0300 200 6565

Senedd Cymru

Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN

SeneddHealth@senedd.wales senedd.wales/SeneddHealth

0300 200 6565

 

Chris Llewelyn Prif Weithredwr

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

8 Rhagfyr 2022

 

Annwyl Chris

 

Yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sesiwn sganio’r gorwel gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i archwilio’r prif faterion sy’n effeithio ar ofal

cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Fe drafodwyd y mater o adroddiadau AGC, er enghraifft adroddiadau arolygu ar gartrefi plant, a'r

hyn sy'n digwydd iddynt ar ôl cael eu cyflwyno i'r awdurdod lleol perthnasol. Mae aelodau'n awyddus i ddeall y broses a bydden nhw'n ddiolchgar petaech yn gallu egluro:

 

1.

 

Beth sy'n digwydd i'r adroddiad ar ôl ei gyhoeddi, er enghraifft a gaiff ei ystyried yn ffurfiol gan y pwyllgor craffu perthnasol.

Sut mae camau’n cael eu gweithredu.

Sut mae camau gweithredu’n cael eu monitro a gan bwy.

 

2.

3.

 

Byddwn yn ystyried ein blaenraglen waith yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a byddai'n ddefnyddiol

felly derbyn eich ymateb erbyn 27 Ionawr 2023.

 

Yn gywir

 

Russell George AS

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. We welcome correspondence in Welsh or English.

 

cc Jayne Bryant, Cadeirydd Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg